GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

017 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022 [Saesneg yn unig]

Gosodwyd yn Senedd y DU: 24 Hydref 2022

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Amherthnasol

Y weithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Cefndir

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Crynodeb

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau newydd o'r Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru. Cafodd trosglwyddo’r swyddogaethau hyn ei hepgor drwy gamgymeriad gan Offeryn Statudol Ymadael â’r UE cynharach. Bydd y swyddogaethau yn cael eu hadfer a'u hail-gyflwyno fel swyddogaethau'r 'awdurdod priodol'. Yr awdurdod priodol mewn perthynas â Chymru yw Gweinidogion Cymru.

 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud cywiriadau i ddarpariaethau deddfwriaeth uniongyrchol a ddargedwir gan yr UE mewn meysydd datganoledig mewn perthynas â pha swyddogaethau, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, sy’n cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan Offerynnau Statudol Ymadael â’r UE blaenorol.

 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth uniongyrchol a ddargedwir gan yr UE ym meysydd hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn cywiro diffygion cyfreithiol a sicrhau gweithredoldeb parhaus y ddeddfwriaeth honno yn y cyfnod ar ôl gweithredu.

 

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar 24 Hydref 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r datganiad ysgrifenedig hefyd yn nodi crynodeb defnyddiol, gydag enghreifftiau ymarferol, o'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau.

 

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.